Mae Cyrchfan Ynni Adnewyddadwy, menter sy’n torri tir newydd, wedi’i theilwra i ysbrydoli gweithlu ynni gwyrdd medrus ar gyfer y sector ynni adnewyddadwy sy’n ehangu. Wedi'i gynllunio fel rhaglen 2 flynedd gynhwysfawr, mae'r cwrs wedi'i anelu at bobl ifanc 16-18 oed, gan gynnig cymhwyster EPQ gwerthfawr i ddysgwyr Lefel 3 sy'n astudio peirianneg, busnes, adeiladu, neu Lefel A.
Wedi’i arloesi a’i ddatblygu gan y partneriaid arweiniol Coleg Sir Benfro, EDF Renewables UK, a DP Energy, mae Cyrchfan Ynni Adnewyddadwy yn cael ei ategu gan raglen Sgiliau a Thalent Bargen Ddinesig Bae Abertawe, a ariennir ar y cyd gan Lywodraethau Cymru a’r DU, ochr yn ochr â buddsoddiad gan y sector preifat.
Mae'r rhaglen yn ymchwilio i wahanol dechnolegau adnewyddadwy fel tonnau, llanw, gwynt ar y tir ac ar y môr, pŵer solar a storio ynni. Mae nid yn unig yn cyflwyno myfyrwyr i gylch bywyd datblygu prosiect yn y sector ynni adnewyddadwy, ond mae hefyd yn tynnu sylw at y llwybrau gyrfa amrywiol o fewn y diwydiant. Mae'r fenter yn cysylltu myfyrwyr yn strategol â darpar gyflogwyr y dyfodol, gan ddangos iddynt y môr o gyfleoedd sy'n bodoli ar hyn o bryd yn y sector ynni adnewyddadwy.
Drwy gydol blwyddyn beilot y rhaglen a ddarparwyd yng Ngholeg Sir Benfro, gyda chyfraniad gan arbenigwyr y diwydiant, ymgysylltodd Cyrchfan Ynni Adnewyddadwy â dros 90 o ddysgwyr mewn amrywiaeth o weithgareddau, gan gynnwys sesiynau theatr, seminarau, gweithdai, ac ymweliadau â safleoedd.
Yn 2022 sicrhaodd y fenter y 'Wobr Sgiliau Ynni Gwynt ar y Môr' fawreddog yng Ngwobrau Gwynt Ar y Môr Byd-eang Renewable UK, gan ennill cydnabyddiaeth am ei rôl yn llywio gweithlu'r diwydiant yn y dyfodol. Yn yr un flwyddyn cafodd y rhaglen hefyd ei chydnabod gan Wobrau STEM Cymru a’i rhoi ar restr fer ‘Rhaglen Addysg y Flwyddyn’.
Datblygu’r cwrs Cyrchfan Ynni Adnewyddadwy
Yn dilyn y gydnabyddiaeth a dderbyniwyd gan y rhaglen beilot, dyfarnwyd cyllid ychwanegol gan Raglen Sgiliau a Thalent Bargen Ddinesig Bae Abertawe i barhau â datblygiad y rhaglen. Mae’r partneriaid arweiniol, mewn cydweithrediad â Fforwm Arfordirol Sir Benfro, yn datblygu cynnwys y cwrs a fydd yn galluogi colegau eraill i gyflwyno’r rhaglen er budd llawer mwy o fyfyrwyr a denu talent newydd i’r sector adnewyddadwy.
Os hoffech gymryd rhan yn y rhaglen, cysylltwch â Choleg Sir Benfro.
Mae Cyrchfan Ynni Adnewyddadwy yn seiliedig ar raglen sgiliau a thalent Bargen Ddinesig Bae Abertawe, a ariennir ar y cyd gan Lywodraethau Cymru a’r DU, ochr yn ochr â buddsoddiad gan y sector preifat.
Partneriaid Cyflenwi'r Rhaglen Beilot