Ymunwch â'n Cylchlythyr
Cadwch y wybodaeth ddiweddaraf am yr holl ddatblygiadau diweddaraf yn Gwynt Glas.
Sign UpCadwch y wybodaeth ddiweddaraf am yr holl ddatblygiadau diweddaraf yn Gwynt Glas.
Sign UpMae’r Môr Celtaidd wedi’i nodi fel lleoliad rownd prydlesu gwely’r môr Ystâd y Goron, ‘Rownd 5’.
Ym mis Mawrth 2021, cyhoeddodd Ystâd y Goron ei bod yn bwriadu dyfarnu hawliau gwely’r môr i ddatblygwyr ar gyfer prosiectau gwynt alltraeth arnofiol (FLOW) yn y Môr Celtaidd. Bwriedir darparu capasiti cychwynnol o 4.5GW erbyn 2035, gyda’r potensial am 12 GW ychwanegol erbyn 2045.
Bydd prosiectau gwynt alltraeth arnofiol yn cyfrannu at darged llywodraeth y DU o’i holl drydan yn cael ei gynhyrchu o ffynonellau carbon isel erbyn 2035, a nod Llywodraeth Cymru o gynhyrchu 100% o ddefnydd trydan Cymru o ynni adnewyddadwy erbyn 2035.
Mae gan brosiectau gwynt arnofiol yn y Môr Celtaidd y potensial i ddod â buddion amgylcheddol, cymdeithasol ac economaidd, gan gefnogi cymunedau arfordirol a chreu buddion hirdymor i’r rhanbarth.
Trosolwg o Brosiect Gwynt Glas
Cynhyrchu ffyniant
Ein nod yw datblygu ynni gwynt alltraeth arnofiol yn y Môr Celtaidd i gynhyrchu ynni glân a hybu ffyniant economaidd rhanbarthol, tra'n lleihau'r tarfu ar yr amgylchedd naturiol, cymunedau lleol a defnyddwyr y môr.
Gwynt arnofiol alltraeth
Mae'r Môr Celtaidd yn lleoliad delfrydol ar gyfer gwynt alltraeth arnofiol. Mae Gwynt Glas yn cynnal gweithgareddau datblygu cychwynnol gyda'r bwriad o gael Cytundeb Prydles gan Ystâd y Goron yn y tendr cystadleuol cyntaf, a safle ar gyfer twf pellach yn y dyfodol.
Pŵer sero carbon i gartrefi
Mae gan brosiect 1 GW y potensial i ddarparu pŵer ar gyfer tua 920,000 o gartrefi.*
*Ffactorau llwyth yn seiliedig ar y cyfartaleddau treigl pum mlynedd ar sail cyfluniad heb ei newid gan ddefnyddio Tabl 6.5 o 'Crynodeb o Ystadegau Ynni'r DU' - y ffigurau diweddaraf yn unol â datganiad mis Gorffennaf 2019. Yn seiliedig ar y defnydd o drydan domestig cyfartalog fesul cartref (tymheredd wedi'i gywiro) yn unol â’r Defnydd o Ynni yn y DU (cyhoeddwyd Gorffennaf 2019, Tabl C9 o ECUK: Tablau data Defnydd)
I gydnabod ein gwreiddiau Celtaidd, dewiswyd Gwynt Glas fel yr enw ar gyfer y prosiect
Byddwch yn ymwybodol o'r holl ddatblygiadau diweddaraf yn Gwynt Glas.
Sign Up