Mae Cyrchfan Ynni Adnewyddadwy, rhaglen arloesol newydd sy’n paratoi myfyrwyr ar gyfer marchnad swyddi ynni adnewyddadwy’r dyfodol, wedi’i lansio heddiw yng Ngholeg Sir Benfro gyda 40 o fyfyrwyr wedi cofrestru. Mae EDF Renewables UK a DP Energy wedi arwyddo Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth gyda Choleg Sir Benfro i ddylunio a chyflwyno’r cwrs dwy flynedd a fydd yn trosglwyddo gwybodaeth am y sector yn y byd go iawn ac yn llywio teithiau gyrfa ar gyfer pobl ifanc 16-18 oed.
Dywedodd y Gwir Anrhydeddus Stephen Crabb AS, Aelod Seneddol Preseli Sir Benfro:
“Heb os, mae’n gyfnod cyffrous i’r sector ynni yn Aberdaugleddau. Mae gweledigaeth glir yn dod i'r amlwg ar gyfer dyfodol carbon isel sy'n cynnwys prosiectau newydd fel gwynt alltraeth arnofiol a hydrogen. Gyda’i threftadaeth sy’n llawn ynni, a’i phwysigrwydd cenedlaethol strategol, mae Sir Benfro mewn sefyllfa dda i fod ar flaen y gad yn y newid i ddyfodol carbon isel.
Mae ganddi’r potensial i ddod â buddion yn genedlaethol ac yn lleol drwy greu swyddi gwyrdd medrus iawn a chyfleoedd am brentisiaethau i bobl Sir Benfro. Rwy’n falch iawn o weld partneriaid yn y diwydiant yn ymuno â Choleg Sir Benfro i gyflwyno rhaglen ynni adnewyddadwy a fydd yn helpu i yrru’r agenda hon yn ei blaen.”
Dywedodd Simon De Pietro, Prif Swyddog Gweithredol DP Energy, am y cytundeb Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth:
“Rydym yn falch iawn o fod wedi creu partneriaeth gyda Choleg Sir Benfro ac EDF Renewables i lansio’r rhaglen arloesol hon i ysbrydoli ac addysgu gweithlu ynni gwyrdd y dyfodol.”
Yn ogystal â'r partneriaid arweiniol, bydd yr oedolion ifanc yn dysgu oddi wrth amrywiaeth o arweinwyr y sector adnewyddadwy; Fforwm Arfordirol Sir Benfro, Awdurdod Porthladd Aberdaugleddau, Ynni Morol Cymru, Regen, MEECE, Celtic Sea Power, Prifysgol Abertawe, Energy Kingdom, Mainstay Marine, Marine Space, Insite, Williams Shipping, Marine Power Systems, 3DW a Cadno Communications. Bydd y cydweithio hwn gyda’r diwydiant yn helpu i bontio’r bwlch sgiliau ac arddangos yr ystod amrywiol o yrfaoedd o fewn y sector, gan gefnogi targedau sero net a sicrhau’r buddion rhanbarthol mwyaf posibl.
Dywedodd Ryanne Burges Cyfarwyddwr Ynni Alltraeth EDF Renewables:
“Ni fu’r achos dros fwy o gapasiti ynni adnewyddadwy erioed yn gryfach, gan greu angen yr un mor gynyddol am weithwyr medrus yn ein sector. Yn EDF Renewables UK and Ireland rydym wedi gwneud ymdrechion sylweddol i greu cyfleoedd hygyrch i’r gweithlu lleol i gefnogi’r gwaith o gyflawni ein prosiectau a sicrhau bod cymunedau lleol yn gallu profi holl fanteision prosiectau seilwaith mor sylweddol sy’n cael eu datblygu oddi ar eu harfordiroedd. Rydym yn falch iawn o fod yn cyflwyno’r rhaglen hon ac yn credu bod Cyrchfan Ynni Adnewyddadwy yn un ffordd y gall pobl ifanc gael mynediad at y cyfleoedd hyn am yrfaoedd yn y dyfodol.”
Dywedodd Joshua Thomas, L3 Peirianneg Fecanyddol yng Ngholeg Sir Benfro sydd wedi cofrestru ar gyfer Cyrchfan Ynni Adnewyddadwy:
“Rydw i wedi ymuno â Cyrchfan Ynni Adnewyddadwy gan fy mod yn pryderu am newid hinsawdd. Byddwn wrth fy modd yn gweithio yn y sector ynni adnewyddadwy yn dilyn fy astudiaethau. Rwy'n gobeithio y bydd y cwrs hwn yn fy helpu i sefyll allan. Rwy’n edrych ymlaen yn fawr at gwrdd â busnesau, dysgu sut maen nhw wedi cyrraedd lle maen nhw nawr a darganfod beth sydd angen i mi ei wneud i gyrraedd yno hefyd.”
Gyda ffocws cynyddol ar fynd i'r afael â newid hinsawdd a sicrhau cyflenwadau ynni, mae angen dybryd i ddatblygu technolegau adnewyddadwy. Mae EDF Renewables UK a DP Energy wrthi ar y cyd yn datblygu Fferm Wynt Alltraeth Arnofiol hyd at 1GW o’r enw Gwynt Glas yn y Môr Celtaidd ac yn cydnabod bod gweithlu medrus yn angenrheidiol i gyflwyno’r technolegau hyn yn gyflym.
Mae Cyrchfan Ynni Adnewyddadwy yn seiliedig ar raglen Sgiliau a Thalent Bargen Ddinesig Bae Abertawe, a ariennir ar y cyd gan Lywodraethau Cymru a’r DU, ochr yn ochr â buddsoddiad gan y sector preifat. Bydd Fforwm Arfordirol Sir Benfro yn cefnogi’r diwydiant ynni adnewyddadwy i gyflawni’r bartneriaeth sector preifat ac addysg hon i reoli safonau cynnwys diwydiant o ansawdd uchel a sicrhau taith gadarnhaol i ddysgwyr.